Hanes

Yr un teulu sydd wedi ffermio Tanyfynwent ers cenedlaethau. Mae’r safle yn un hanesyddol gan mai yma y safai eglwys plwyf Llanllibio ar un adeg. Gellir gweld yr olion yn glir hyd heddiw ac mae hyn yn egluro’r enw Tanyfynwent (wrth ymyl neu ger y fynwent).

Yr oedd Llibio yn un o’r llu seintiau Celtaidd a ymgartrefodd ar ynys Môn, ac fe gysegrwyd yr eglwys fach anhysbys hon iddo. Deellir fod yr eglwys wedi dechrau mynd yn adfail erbyn 1784 ac ni chynhaliwyd unrhyw wasanaeth yno wedi 1684. Heddiw, gellir gweld sylfeini’r wal derfyn, a gosodwyd carreg goffa i’r eglwys yno yn 1849.

Nepell o’r tŷ a’r eglwys mae’r hen felin ddŵr y ceir cofnod ohoni ganrif neu ddwy cyn yr eglwys. Parhaodd i weithio hyd at 1820. Mae rhestr o’r holl felinwyr ac amrywiol ffeithiau hanesyddol diddorol am y felin i’w gweld yn hen lyfrau cofrestr Ystâd Baron Hill, Biwmares. Erbyn heddiw dim ond ychydig o’r cerrig sylfaen sydd yno, ond mae’r hen bompren dros y nant yn dal yn gyfan ac mewn cyflwr da iawn. Mae wedi ei chofrestru fel arteffact o ddiddordeb hanesyddol.

Gerllaw, mewn cyflwr da iawn, mae’r adeilad a ddefnyddiwyd ar gyfer sychu grawn. Ar 12 Mai 1786 rhoddwyd les ar yr adeilad i’w ddefnyddio fel ysgubor ddegwm, ac fel yr Ysgubor Ddegwm y’i hadwaenir heddiw.

Mae Tanyfynwent yn le delfrydol i ymlacio yng nghanol llonyddwch cefn gwlad Ynys Môn. Mae’n llawn cymeriad ac yn cynnig blas y gorffennol tra ar yr un pryd yn cynnig cyfleusterau heddiw.