- Lle cysgu I 6 / 8 & babi
- Visit Wales Hunan Arlwyo Graddfa **** 4 Seren
- Dynodedig ‘Croeso i Seiclwyr’ a ‘Chroeso i Gerddwyr’
- Croeso i gŵn
- Yn agored gydol y flwyddyn
- Darperir dillad gwely
- Cot/cadair uchel
- Gwres canolog
- Mae glendid yn ddilysnod i ni
- Bwrdd /mainc Picnic / & Barbeciw
- Lle i gadw beic – cwt allanol
- Digonedd o le i barcio ceir – 3 char + trailer
- Yn cael ei gadw’n eiri ac yn gynnes bob amser – yn barod ar gyfer gwyliau byrfyfyr, munud olaf oddi allan I’r tymor gwyliau
- Tawelwch a llonyddwch
- Man encilio yn y wlad
- Swyn traddodiadol
- Croeso Cymreig cynnese
Llawr Isaf
Mae’r ystafell fwyta yn cynnwys nodweddion megis lle tân gwreiddiol gyda lle eistedd o dan y simnai fawr, a nenfwd trawstiau agored pinwydd pyg. Mae’n arwain i’r libart a’r gegin dwt sy’n cynnwys popty trydan, microdon, rhewgell/oergell, peiriant golchi a pheiriant sychu.
Mae’r lolfa yn fawr gyda dodrefn cyfforddus a grât lle gellir mwynhau tân agored. Ceir hefyd deledu lliw a rheolydd o bell.
Mae hwyl i’w gael ar gyfer plant o bob oed (a mam a dad hefyd efallai!) yn yr ystafell chwaraeon ar wahân gyda phêl-droed bwrdd, a bwrdd snwcer sy’n darparu adloniant gyda’r nos neu ar brynhawn glawog.
Y tu allan
Mae yna lawnt eang lle gall y plant chwarae, a chedwir llwybr clir trwy’r goedwig gyfagos i’r nant fyrlymog sydd gerllaw a’r bompren a restrwyd yn Raddfa 2. Yn ei dymor mae tir y goedwig yn llawn eirlysiau, cennin Pedr a chlychau’r gog. Mae’r libart cysgodol gyda’r bwrdd picnic yn darparu man heulog ar gyfer bwyta yn yr awyr agored..
I fyny grisiau
Mae pedair llofft i fyny grisiau – dwy ystafell ddwbl a dwy ystafell sengl, ac mae modd gosod gwely dros dro ar gyfer gwesteion ychwanegol os gwneir cais. Mae’r dillad gwely wedi eu cynnwys, a darperir duvets a blancedi ychwanegol. Mae ystafell fach ychwanegol hefyd gyda chot babi ynddi.

